Hepgor gwe-lywio

Ein Lleoliad

Ein Lleoliad

Dewch i ddarganfod ein Orendy rhestredig Gradd 1, sy'n swatio yng nghanol yr ystâd arobryn,
Parc Gwledig Margam.
Wedi’i amgylchynu gan dros 850 erw o barcdir tonnog, mae’r golygfeydd o’r Orendy heb eu hail drwy gydol y flwyddyn.
Yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, mae llawer o gyfrinachau yn ein gerddi hanesyddol.
O'r Adfeilion Mynachaidd hynafol dramatig i'r Ardd Orendy a'r Teras tringar hardd
Y fynedfa fawreddog i Barc Gwledig Margam, ynghyd â’n pensaernïaeth gain, llynnoedd disglair, blodau tymhorol a lawntiau parc ceirw tonnog sy’n ein gwneud yn unigryw. Heb sôn am ba mor hudolus y daw Margam yn ystod y gaeaf.
Byddwch yn cael eich sbwylio gan ddewis o ran dod o hyd i'ch cefndir perffaith.
Beth bynnag fo’r tywydd, beth bynnag fo’r tymor, mae’r olygfa o’n lleoliad priodas unigryw yn ne Cymru yn un anodd i’w churo.