Hepgor gwe-lywio

Priodasau Asiaidd

Y lleoliad perffaith ar gyfer priodas Asiaidd

Y lleoliad perffaith ar gyfer priodasau Asiaidd

Wedi'i leoli ar diroedd Parc Gwledig Margam, mae gan yr Orendy lawer i'w gynnig i gyplau sydd am drefnu priodas fawr, amlwg. Ein lleoliad unigryw a'n pensaernïaeth drawiadol yw'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas Asiaidd.
 
Nid oes llawer o leoliadau priodasau yn ne Cymru sy'n gallu cynnal hyd at 400 o westai sydd cystal â'r Orendy.
Rydym wedi ein hamgylchynu gan gefndiroedd hardd ar gyfer eich diwrnod arbennig. O ffenestri bwaog yn The Grove a'r Ystafell Wledda i'r prif risiau y tu mewn i Gastell Margam. Er ein bod wedi'n hamgylchynu gan dros 850 erw o barcdir hardd, mae'n hawdd ein cyrraedd o'r M4 gerllaw - perffaith ar gyfer y rheiny sy'n teithio o bob cwr.

Mae llogi ein lleoliad nad yw'n cynnwys arlwyaeth yn cynnwys defnydd o'n llwyfan.

 



Darparwyd y fideo gan Colour Media UK
Darparwyd y ddelwedd gan Viktoria Kuti Photography
© Cyngor Castell-nedd Port Talbot