Hepgor gwe-lywio

Digwyddiad priodasau

Gallwch ddychmygu eich priodas eich hun yn yr Orendy

Cynhelir ein digwyddiad priodasau nesaf: Dydd Gwener 4, dydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Ionawr 2019

Bydd ein digwyddiad priodasau'n rhoi'r cyfle i chi ddychmygu eich diwrnod arbennig chi yn yr Orendy. Yn ystod ein digwyddiad, bydd yr Orendy'n cael ei addurno a'i osod ar gyfer priodas. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ar eich diwrnod mawr. Bydd ein prif gogydd a'n tîm gwledda'n gweini byrbrydau i chi eu blasu a bydd ein cydlynwyr priodas dynodedig wrth law i ateb eich cwestiynau.

Pan rydych chi yma, cofiwch fynd i archwilio ein tiroedd godidog ac i ddod o hyd i'r cefndir perffaith ar gyfer eich lluniau.

Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer ein digwyddiad. Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, fodd bynnag, bydd yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan aelod o'n tîm priodasau.

Darparwyd y ddelwedd gan Justin Harris Photography
Wedding Showcase (Welsh)
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot